Attendance Presenoldeb

Targed yr Awdurdod Lleol ac ein targed ni ar gyfer pob plentyn yw presenoldeb o 97% o leiaf.

 

Mae’r Awdurdod Lleol wedi gofyn i ni atodi taflen wybodaeth i chi yn dangos y berthynas rhwng presenoldeb a chyflawniad.

Taflen gwybodaeth

Mae presenoldeb uchel yn dod â manteision amlwg. Mae plant yn fwy tebygol o fwynhau ysgol, derbyn canlyniadau gwell ac o ganlyniad mwy o gyfleoedd mewn bywyd.

 

Deallwn fod salwch yn anochel, dylid gwneud pob ymdrech i ddod a’ch plentyn i’r ysgol. Gall aros adref yn rheolaidd olygu bod rhywbeth yn poeni eich plentyn. Os ydych am unrhyw reswm yn poeni am bresenoldeb eich plentyn cysylltwch â’r ysgol yn syth os gwelwch yn dda.

 

Mae’n hanfodol bod pob plentyn yn cyrraedd yr ysgol yn brydlon. Mae bod yn hwyr yn rheolaidd yn cael effaith niweidiol ar addysg plentyn. Nid yn unig gall golli rhan hanfodol o’r dydd ond hefyd  dioddef y cywilydd o gerdded i mewn i’r dosbarth yn hwyr.

 

Mae angen i bob disgybl fod ar yr iard cyn 8:30a.m.

 

Byddwch yn derbyn gwybodaeth am bresenoldeb eich plentyn bob tymor