Headteacher's Welcome Gair gan y pennaeth

 

 Diolch am gymryd amser i edrych ar ein gwefan

Ein nod fel ysgol yw creu awyrgylch hapus a diogel i’n disgyblion fel eu bont yn awyddus i ddysgu ac yn mwynhau dod i’r ysgol.
Ymfalchïwn yn y ffaith ein bod ni yn ysgol gyfeillgar, hapus ac agored. Rydyn yn awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth â’n rhieni er mwyn i’n disgyblion gyrraedd eu llawn botensial.

Anogwn ein disgyblion i barchu  eraill a dangos cariad tuag at eu gwlad, iaith, diwylliant a threftadaeth.
Cymerwn ein cyfrifoldeb o baratoi ein disgyblion i fod yn ddinasyddion cyfrifol a gofalgar o ddifrif, a gweithiwn yn galed i feithrin gwerthoedd yn ein disgyblion a fydd yn eu paratoi at fod yn unigolion balch, hyderus a chyflawn.

Mr Rhydian Lloyd
Pennaeth